Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2020
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kayleigh Imperato – Dipwrwy Glerc
0300 200 6373
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 46)
2 Deisebau newydd
2.1 P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd
(Tudalennau 47 - 50)
2.2 P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud
(Tudalennau 51 - 62)
2.3 P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19
(Tudalennau 63 - 71)
2.4 P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw
(Tudalennau 72 - 82)
2.5 P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol
(Tudalennau 83 - 85)
2.6 P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr
(Tudalennau 86 - 88)
2.7 P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor
(Tudalennau 89 - 93)
2.8 P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol
(Tudalennau 94 - 96)
2.9 P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i dderbyniadau priodas
(Tudalennau 97 - 104)
2.10 P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngaidau symud cenedlaethol yng Nghymru
(Tudalennau 105 - 107)
2.11 P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud
(Tudalennau 108 - 116)
2.12 P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes
(Tudalennau 117 - 130)
2.13 P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau
(Tudalennau 131 - 133)
Deisebau nad ydynt yn ymwneud â Covid-19
2.14 P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf!
(Tudalennau 134 - 140)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.1 P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr
(Tudalennau 141 - 149)
Addysg
3.2 P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol
(Tudalennau 150 - 159)
3.3 P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19
(Tudalennau 160 - 163)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
3.4 P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol
(Tudalennau 164 - 165)
3.5 P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol
(Tudalennau 166 - 170)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
3.6 P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru
(Tudalennau 171 - 175)
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
3.7 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)
(Tudalennau 176 - 180)
3.8 P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr
(Tudalennau 181 - 184)
Economi a Thrafnidiaeth
3.9 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
(Tudalennau 185 - 190)
Tai a Llywodraeth Leol
3.10 P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi
(Tudalennau 191 - 193)